'Senni' gan Aeron Davies

Bu’r brwydro yn ffyrnig a chaled
Er cadw'r hen Gwm rhag y d r
Roedd gwaed y trigolion yn berwi
A chodi wnaeth pawb fel un g r.

Pa reswm, oedd ildio ein daear
Yn aberth i fympwy rhyw Sais?
A cholli hen fro, ein treftadaeth,
Pam goddef o hyd y fath drais?

Cymdeithas a dôl yn diflannu
Y cartref, y capel a'r llan
Diwylliant Cymreig ar ei orau,
Ni chânt wneud ail Epynt o'r fan.
I glôs Fferm y Brychgoed rhwy fore
Daeth y Bwrdd a'u periannau'n hy,
'Hyd yma, dim pellach', fu'r hanes,
Roedd seiren gan John yn y t .

Achubwyd y Cwm rhag yr argae.
Daeth heddwch i'r fynwes yn ôl,
A gwell na llonyddwch di-ramant
Gweld preiddiau ar fryn ac ar ddôl
Bu rhywrai yn sôn am yr iawndal
Dderbynient pe baent wedi mynd,
Does iawndal all dalu am gartref,
Cymdogaeth, cymdiethas a ffrind.

(Cerddi Powys - Dafydd Morgan Lewis [Golygydd] and Gomer Press 2004)


Reproduced with acknowledgements to Cerddi Powys - Dafydd Morgan Lewis [Golygydd] and Gomer Press 2004